Bu’r gantores opera enwog Adelina Patti (1843-1919) yn berchen ar Gastell Craig-y-nos ar droad yr ugeinfed ganrif, a chododd theatr ar dir yr ystâd. Mae sawl cyfeiriad at ysbrydion yma, a dywedir bod eneidiau lawer yn aflonyddu ar y castell. Cyn gorffwyso dros nos, mae modd cael taith o gwmpas a gweld lle cafodd Patti ei phêr-eneinio, ynghyd â’r ystafell lle câi'r rheini a ddioddefai o’r diciâu eu trin yn nechrau’r 1920au. Mae’r teithiau ysbrydion yn cynnwys sesiwn séance. Gallwch hefyd ymweld ag ogofau iasol Dan-yr-Ogof gerllaw.