Craig y Ddinas, Pontneddfechan

ARTHUR A’I WYRTHIAU

... Myrddin, dreigiau a Chaledfwlch
craig-y-ddinas

Yng Nghraig y Ddinas, meddai rhai, y mae'r Brenin Arthur yn gorffwyso bellach. Clogwyn calchfaen 45m yw hwn, ac arno fryngaer o Oes yr Haearn ar ei gopa. Yn ôl un chwedl, mae ogof danddaearol o dan y gaer. Dywedir bod y Brenin Arthur a byddin fawr o'i wŷr ynghwsg yno, yn aros i godi drachefn ac ailgipio ynys Prydain. Maent yn amddiffyn twmpath o arian ac aur, a chlychau o’u cylch i’w deffro o’u trwmgwsg os daw unrhyw ladron yno. Fe ddewch o hyd i’r rhyfeddod daearegol hwn yng nghanol ardal y rhaeadrau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae sawl llwybr yn arwain o Graig y Ddinas, gan gynnwys un i Sgwd yr Eira, a hwnnw'n consurio’r rhamant Arthuraidd i’r dim wrth ichi gerdded ar y silff y tu ôl i'r rhaeadr byrlymus.

Craig y Ddinas, Pontneddfechan

  • Yng Nghraig y Ddinas, meddai rhai, y mae'r Brenin Arthur yn gorffwyso bellach. Clogwyn calchfaen 45m yw hwn, ac arno fryngaer o Oes yr Haearn ar ei gopa. Yn ôl un chwedl, mae ogof danddaearol o dan y gaer. Dywedir bod y Brenin Arthur a byddin fawr o'i wŷr ynghwsg yno, yn aros i godi drachefn ac ailgipio ynys Prydain. Maent yn amddiffyn twmpath o arian ac aur, a chlychau o’u cylch i’w deffro o’u trwmgwsg os daw unrhyw ladron yno. Fe ddewch o hyd i’r rhyfeddod daearegol hwn yng nghanol ardal y rhaeadrau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae sawl llwybr yn arwain o Graig y Ddinas, gan gynnwys un i Sgwd yr Eira, a hwnnw'n consurio’r rhamant Arthuraidd i’r dim wrth ichi gerdded ar y silff y tu ôl i'r rhaeadr byrlymus.

    More ARTHUR A’I WYRTHIAU locations