Ger priffordd yr A487, nid nepell o Lanrhystud, mae graffiti enwog a beintiwyd i dynnu sylw at un o’r achosion gwaethaf erioed o ormes llywodraeth Prydain dros Gymru. Mae ‘Cofiwch Dryweryn’ bellach yn ddelwedd eiconig o’r Gymru gyfoes. Mae’n cyfeirio, wrth gwrs, at yrru trigolion Capel Celyn o'u cartrefi er mwyn creu cronfa i gyflenwi dŵr i Lerpwl. Peintiwyd y graffiti gwreiddiol yn wyn ym 1963, a’i ailbeintio wedyn sawl tro dros y blynyddoedd. Heddiw, mae’r geiriau’n wyn ar gefndir coch, ynghyd â logo tafod y ddraig Cymdeithas yr Iaith oddi tanynt.
Llun o Graffiti Cofiwch Dryweryn - hawlfraint Yvonne Evans