Coed-y-Brenin, Neuadd Lwyd

SŴN Y MARW’N YMYRRYD

... Arswyd, ysbrydion ac Annwn
coed-y-brenin-neuadd-lwyd

Y Gannwyll Gorff a’r Toili neu’r Crefishgyn yw’r arwyddion enwocaf o farwolaeth yn y gorllewin. Un enghraifft o’r fath yw hanes John Jones o Goed-y-Brenin, ger Neuadd Lwyd, a oedd yn cerdded adref un noson o’r Dderwen Gam. Wrth gyrraedd croesffordd, cafodd ei hun yng nghanol toili, neu ddrychiolaeth o angladd, ac roedd y dyrfa o eneidiau’n pwyso mor drwm arno nes y daeth o fewn dim i lewygu. Yn y diwedd, llwyddodd i ddianc i gae wrth i’r galarwyr ymdeithio yn eu blaenau i gyfeiriad Neuadd Lwyd. Rai wythnosau’n ddiweddarach, gwelodd Jones yr angladd go iawn. Ewch am dro ar y llwybrau o amgylch Neuadd Lwyd, lawr i ddyffryn cul a choediog afon Mydr. Ar eich ffordd yn ôl, galwch heibio i Lanerchaeron, sef fila Georgaidd sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Llun o lôn Neuadd Lwyd - hawlfraint Nigel Brown

Coed-y-Brenin, Neuadd Lwyd

  • Y Gannwyll Gorff a’r Toili neu’r Crefishgyn yw’r arwyddion enwocaf o farwolaeth yn y gorllewin. Un enghraifft o’r fath yw hanes John Jones o Goed-y-Brenin, ger Neuadd Lwyd, a oedd yn cerdded adref un noson o’r Dderwen Gam. Wrth gyrraedd croesffordd, cafodd ei hun yng nghanol toili, neu ddrychiolaeth o angladd, ac roedd y dyrfa o eneidiau’n pwyso mor drwm arno nes y daeth o fewn dim i lewygu. Yn y diwedd, llwyddodd i ddianc i gae wrth i’r galarwyr ymdeithio yn eu blaenau i gyfeiriad Neuadd Lwyd. Rai wythnosau’n ddiweddarach, gwelodd Jones yr angladd go iawn. Ewch am dro ar y llwybrau o amgylch Neuadd Lwyd, lawr i ddyffryn cul a choediog afon Mydr. Ar eich ffordd yn ôl, galwch heibio i Lanerchaeron, sef fila Georgaidd sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

    Llun o lôn Neuadd Lwyd - hawlfraint Nigel Brown

    More SŴN Y MARW’N YMYRRYD locations