Castell Cilgerran

BRWYDRAU AC ARFAU: I’R GAD

... Rhyfelwyr, milwyr, cestyll a theyrnasoedd
cilgerran-castle

Caer odidog o’r drydedd ganrif ar ddeg yw Castell Cilgerran, yn sefyll ar drwyn o graig uwch afon Teifi. Mae rhywbeth rhamantus neilltuol am y castell hynafol hwn a’i leoliad arbennig. Mae’n gweddu rywsut y bydd cysylltiad am byth rhwng Cilgerran â’r hanes am gipio'r Dywysoges Nest (1085- <1135) gan Owain ap Cadwgan, mab Tywysog Powys, a oedd yn elyn i’w gŵr. Arweiniodd hyn at ryfel cartref ledled Cymru. Yn ôl rhai, Nest oedd fersiwn Cymru o Elen o Gaerdroea. Cafodd blentyn gordderch â Harri I cyn priodi â sawl arglwydd Normanaidd. Mae’r castell bellach yng ngofal Cadw.

Castell Cilgerran

  • Caer odidog o’r drydedd ganrif ar ddeg yw Castell Cilgerran, yn sefyll ar drwyn o graig uwch afon Teifi. Mae rhywbeth rhamantus neilltuol am y castell hynafol hwn a’i leoliad arbennig. Mae’n gweddu rywsut y bydd cysylltiad am byth rhwng Cilgerran â’r hanes am gipio'r Dywysoges Nest (1085- <1135) gan Owain ap Cadwgan, mab Tywysog Powys, a oedd yn elyn i’w gŵr. Arweiniodd hyn at ryfel cartref ledled Cymru. Yn ôl rhai, Nest oedd fersiwn Cymru o Elen o Gaerdroea. Cafodd blentyn gordderch â Harri I cyn priodi â sawl arglwydd Normanaidd. Mae’r castell bellach yng ngofal Cadw.

    More BRWYDRAU AC ARFAU: I’R GAD locations