Castell Coch

GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN

... Mythau i’ch synnu a’ch rhyfeddu
castell-coch

Erbyn heddiw, castell stori tylwyth teg yw Castell Coch, ond roedd caer yma yn yr oesoedd canol, a hwnnw, yn ôl pob sôn, wedi’i chodi gan y bonheddwr Ifor Bach. Pan fu farw Ifor, dywedid iddo gael ei gladdu'n ddwfn y tu mewn i'r castell mewn siambr gudd. Roedd arno ofn y byddai rhywbeth yn tarfu arno yn y byd nesaf, ac felly, yn ôl y chwedl, penderfynodd droi dau o'i ddynion yn eryrod o garreg, a'u gosod wrth fynedfa'i feddrod i'w warchod hyd byth. Pan geisiodd dau leidr fynd i mewn i'w siambr, daeth y ddau eryr yn fyw ar amrantiad a’u hel oddi yno. Mae gwaddol Ifor yn fyw o hyd yng Nghaerdydd, a'i enw ar y clwb nos poblogaidd, Clwb Ifor Bach. Cadw sy’n gofalu am Castell Coch.

Castell Coch

  • Erbyn heddiw, castell stori tylwyth teg yw Castell Coch, ond roedd caer yma yn yr oesoedd canol, a hwnnw, yn ôl pob sôn, wedi’i chodi gan y bonheddwr Ifor Bach. Pan fu farw Ifor, dywedid iddo gael ei gladdu'n ddwfn y tu mewn i'r castell mewn siambr gudd. Roedd arno ofn y byddai rhywbeth yn tarfu arno yn y byd nesaf, ac felly, yn ôl y chwedl, penderfynodd droi dau o'i ddynion yn eryrod o garreg, a'u gosod wrth fynedfa'i feddrod i'w warchod hyd byth. Pan geisiodd dau leidr fynd i mewn i'w siambr, daeth y ddau eryr yn fyw ar amrantiad a’u hel oddi yno. Mae gwaddol Ifor yn fyw o hyd yng Nghaerdydd, a'i enw ar y clwb nos poblogaidd, Clwb Ifor Bach. Cadw sy’n gofalu am Castell Coch.

    More GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN locations