Neuadd y Dref, Caerfyrddin

YN GYMRAEG MAE’I MORIO HI

... Ein hiaith a’n hunaniaeth
carmarthen-guildhall

Dilynodd Gwynfor Evans (1912-2005), Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, ei fuddugoliaeth yn etholiad 1966 gydag araith yn Neuadd y Dref, Caerfyrddin. Mae plac yno bellach i gofnodi’r achlysur. Bu’n rhaid galw'r isetholiad hwnnw wedi marwolaeth Megan Lloyd George AS, ac fe’i gwelir yn aml yn foment dyngedfennol yn hanes datganoli ym Mhrydain yn ogystal ag yn sbardun hollbwysig ym mrwydr yr iaith. Defnyddid Neuadd y Dref hefyd yn llys barn ar un adeg. Yma y daeth Ronald Harries, un o Ferched Beca, o flaen ei well am lofruddio, ac fe'i dedfrydwyd i farwolaeth ar ôl ei ganfod yn euog. Wedi ichi fynd heibio i Neuadd y Dref, cerddwch i lawr Stryd y Brenin i Oriel Myrddin, lle mae arddangosfeydd celf a chrefft a siop yn gwerthu gweithiau lleol.

Llun o Neuadd y Dref - hawlfraint Ruth Sharville

Neuadd y Dref, Caerfyrddin

  • Dilynodd Gwynfor Evans (1912-2005), Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, ei fuddugoliaeth yn etholiad 1966 gydag araith yn Neuadd y Dref, Caerfyrddin. Mae plac yno bellach i gofnodi’r achlysur. Bu’n rhaid galw'r isetholiad hwnnw wedi marwolaeth Megan Lloyd George AS, ac fe’i gwelir yn aml yn foment dyngedfennol yn hanes datganoli ym Mhrydain yn ogystal ag yn sbardun hollbwysig ym mrwydr yr iaith. Defnyddid Neuadd y Dref hefyd yn llys barn ar un adeg. Yma y daeth Ronald Harries, un o Ferched Beca, o flaen ei well am lofruddio, ac fe'i dedfrydwyd i farwolaeth ar ôl ei ganfod yn euog. Wedi ichi fynd heibio i Neuadd y Dref, cerddwch i lawr Stryd y Brenin i Oriel Myrddin, lle mae arddangosfeydd celf a chrefft a siop yn gwerthu gweithiau lleol.

    Llun o Neuadd y Dref - hawlfraint Ruth Sharville

    More YN GYMRAEG MAE’I MORIO HI locations