Cofeb Glofa’r Cambrian, Tonypandy

GWRTHRYFEL A REBELIAID

... Dihirod, terfysgwyr, taranwyr
cambrian-colliery-memorial-tonypandy

Cyfres o frwydrau mewn gwrthdaro treisgar rhwng glowyr, yr heddlu a’r fyddin oedd Terfysgoedd Tonypandy ym 1910 a 1911. Dyma benllanw anghydfod diwydiannol rhwng y gweithwyr a pherchnogion y glofeydd a fu’n cydweithio i reoli cyflogau, gan bennu incwm yn ôl yr hyn a gynhyrchid yn hytrach nag fesul awr. Golygai hyn mai'r gweithwyr a oedd yn gorfod ysgwyddo'r gost o weithio gwythiennau glo mwy anodd. Mae’r nofelau Cwmardy ac We Live gan Lewis Jones (1897-1939) yn darlunio’n egr y modd y manteisiwyd ar gymunedau lleol, ac yn rhoi cip inni o’r tlodi, y trasiedi, y gobaith a’r dyngarwch a welid yn y cymunedau hynny. Magwyd Jones yng Nghwm Clydach, nid nepell i’r gorllewin o Donypandy. Yng ngwaelod y cwm hwn yr oedd Glofa'r Cambrian, lle gweithiai’r rhan fwyaf o brotestwyr Tonypandy. Mae Cofeb Glofa’r Cambrian wedi ei leoli oddi fewn i Barc Gwledig Cwm Clydach. Dilynwch y llwybrau troed i’r mynydd gan ddefnyddio’r llwybrau sydd ar gael yma. Dyma lle byddai Jones yn crwydro yn blentyn, a cheir golygfeydd gwych yma o greithiau'r glo ac o Donypandy ei hun.

Llun 1910 - hawlfraint Amgueddfa Pontypridd
Lluniau o Barc Gwledig Cwm Clydach - hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cofeb Glofa’r Cambrian, Tonypandy

  • Cyfres o frwydrau mewn gwrthdaro treisgar rhwng glowyr, yr heddlu a’r fyddin oedd Terfysgoedd Tonypandy ym 1910 a 1911. Dyma benllanw anghydfod diwydiannol rhwng y gweithwyr a pherchnogion y glofeydd a fu’n cydweithio i reoli cyflogau, gan bennu incwm yn ôl yr hyn a gynhyrchid yn hytrach nag fesul awr. Golygai hyn mai'r gweithwyr a oedd yn gorfod ysgwyddo'r gost o weithio gwythiennau glo mwy anodd. Mae’r nofelau Cwmardy ac We Live gan Lewis Jones (1897-1939) yn darlunio’n egr y modd y manteisiwyd ar gymunedau lleol, ac yn rhoi cip inni o’r tlodi, y trasiedi, y gobaith a’r dyngarwch a welid yn y cymunedau hynny. Magwyd Jones yng Nghwm Clydach, nid nepell i’r gorllewin o Donypandy. Yng ngwaelod y cwm hwn yr oedd Glofa'r Cambrian, lle gweithiai’r rhan fwyaf o brotestwyr Tonypandy. Mae Cofeb Glofa’r Cambrian wedi ei leoli oddi fewn i Barc Gwledig Cwm Clydach. Dilynwch y llwybrau troed i’r mynydd gan ddefnyddio’r llwybrau sydd ar gael yma. Dyma lle byddai Jones yn crwydro yn blentyn, a cheir golygfeydd gwych yma o greithiau'r glo ac o Donypandy ei hun.

    Llun 1910 - hawlfraint Amgueddfa Pontypridd
    Lluniau o Barc Gwledig Cwm Clydach - hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

    More GWRTHRYFEL A REBELIAID locations