Dywedodd JRR Tolkien (1892-1973) "I love Wales and especially the Welsh language". Cafodd ei astudiaethau o'r Gymraeg ddylanwad mawr ar The Lord of the Rings. Gellir dadlau fod y lleoliad hwn yng Nghwmwysg wedi ysbrydoli sawl agwedd ar ei nofel epig, a'i fod wedi benthyg o'r ardal yn ei fap cynharaf o The Shire. Bu Tolkien ar wyliau yn yr ardal pan yn blentyn yn 1905, ac mae'n bosib iddo addasu rhai o'r enwau lleol yn ei stori: Crick Hollow o Crug Hywel, Bucklebury o Bwlch; enw'r cymeriad Fredegar wedi ei addasu o enw teuluol ei warchodwyr Morgan's o Dredegar. Mae Brandywine Bridge yn adlais o Bont Llangynidr, sy’n dyddio yn ôl i 1700. Gallai Buckland Hall fod wedi ysbrydoli Brandy Hall, trigfa Hobitiaid Brandybuck. Fel y disgrifia'r llyfr, mae wedi ei leoli "on the east of the river”. Lleoliad preifat sydd ar gael i’w logi yw Buckland Hall erbyn hyn, ond gallwch ddilyn nifer o lwybrau troed drwy’r ystâd at y bryn cyfagos, sy'n rhoi golygfeydd ysblennydd dros ardal allai fod wedi gwneud argraff fawr ar Tolkien y bachgen.
Lluniau - hawlfraint John Briggs / Llenyddiaeth Cymru