Ynys Enlli

YR HUDOL A’R CYSEGREDIG

... Paganiaid a phererinion
bardsey-island

Dywedir bod 20,000 o saint wedi eu claddu ar Ynys Enlli, a’r rheini’n rhannu’r ynys brydferth hon ag adar mudo, adar y pâl a morloi sy'n gorweddian ar y creigiau. Bu pererinion yn teithio yma ers y chweched ganrif, pan sefydlodd Sant Cadfan fynachlog ar yr ynys. Bu’n noddfa lenyddol ac yn ysbrydoliaeth i awduron ac artistiaid o bob math, gan gynnwys: y nofelydd a’r cerddor Fflur Dafydd (g. 1978) yn ei chyfrol Atyniad; y bardd a’r artist gweledol Brenda Chamberlain; y bardd Christine Evans; yr awdur Jon Gower; a'r bardd RS Thomas, a fyddai’n hoff o wylio'r adar yma. Ym 1953, y bardd Dilys Cadwaladr (1902-1979) oedd y ferch gyntaf i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol am ei cherdd Y Llen. Bu hi’n athrawes ar Ynys Enlli. Mae'r RSPB yn gofalu am y Warchodfa Natur Genedlaethol, a gallwch drefnu taith undydd neu logi bwythyn gwyliau ar yr ynys. Cadwch olwg am y llamhidyddion wrth groesi’r Swnt

Ynys Enlli

  • Dywedir bod 20,000 o saint wedi eu claddu ar Ynys Enlli, a’r rheini’n rhannu’r ynys brydferth hon ag adar mudo, adar y pâl a morloi sy'n gorweddian ar y creigiau. Bu pererinion yn teithio yma ers y chweched ganrif, pan sefydlodd Sant Cadfan fynachlog ar yr ynys. Bu’n noddfa lenyddol ac yn ysbrydoliaeth i awduron ac artistiaid o bob math, gan gynnwys: y nofelydd a’r cerddor Fflur Dafydd (g. 1978) yn ei chyfrol Atyniad; y bardd a’r artist gweledol Brenda Chamberlain; y bardd Christine Evans; yr awdur Jon Gower; a'r bardd RS Thomas, a fyddai’n hoff o wylio'r adar yma. Ym 1953, y bardd Dilys Cadwaladr (1902-1979) oedd y ferch gyntaf i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol am ei cherdd Y Llen. Bu hi’n athrawes ar Ynys Enlli. Mae'r RSPB yn gofalu am y Warchodfa Natur Genedlaethol, a gallwch drefnu taith undydd neu logi bwythyn gwyliau ar yr ynys. Cadwch olwg am y llamhidyddion wrth groesi’r Swnt

    More YR HUDOL A’R CYSEGREDIG locations