Barclodiad y Gawres

YR HUDOL A’R CYSEGREDIG

... Paganiaid a phererinion
barclodiad-y-gawres

Siambr gladdu, ar ffurf cyntedd, o Oes Newydd y Cerrig yw hon, yn dyddio yn ôl i 3000 CC. Dim ond un o ddwy siambr o’r fath sy’n dal i fodoli yng Nghymru (mae’r llall ym Mryn Celli Ddu gerllaw). Ar nifer o feini’r siambr ceir addurniadau troellog, siapiau diemwnt a llinellau igam-ogam cain, a hynny mae'n debyg i gymell perlesmair shamanaidd. Wrth gloddio yma, canfuwyd olion tân, ac ar hwnnw weddillion merfog, llysywen, broga, llyffant, neidr lwyd, llygoden, chwistlen ac ysgyfarnog. Mae’r enw Barclodiad y Gawres yn deillio o chwedl am ddau gawr – gŵr a gwraig – a oedd yn cludo meini tua’r gogledd er mwyn codi cartref newydd yno. A hwythau’n flinedig a lluddedig wedi’r daith, fe welsant grydd a gofyn iddo pa mor bell oedd Môn. Mewn braw, dywedodd y crydd gelwydd, a honni eu bod filltiroedd o ben eu taith er eu bod mewn gwirionedd wedi cyrraedd. Ac anobaith yn ei llethu, gollyngodd y gawres ei cherrig – a gadael y siambr gladdu ar ei hôl. Mae modd mynd i weld y siambr drwy drefnu apwyntiad â’r sawl sy’n cadw’r allwedd yn y Wayside Stores yn Llanfaelog.

Barclodiad y Gawres

  • Siambr gladdu, ar ffurf cyntedd, o Oes Newydd y Cerrig yw hon, yn dyddio yn ôl i 3000 CC. Dim ond un o ddwy siambr o’r fath sy’n dal i fodoli yng Nghymru (mae’r llall ym Mryn Celli Ddu gerllaw). Ar nifer o feini’r siambr ceir addurniadau troellog, siapiau diemwnt a llinellau igam-ogam cain, a hynny mae'n debyg i gymell perlesmair shamanaidd. Wrth gloddio yma, canfuwyd olion tân, ac ar hwnnw weddillion merfog, llysywen, broga, llyffant, neidr lwyd, llygoden, chwistlen ac ysgyfarnog. Mae’r enw Barclodiad y Gawres yn deillio o chwedl am ddau gawr – gŵr a gwraig – a oedd yn cludo meini tua’r gogledd er mwyn codi cartref newydd yno. A hwythau’n flinedig a lluddedig wedi’r daith, fe welsant grydd a gofyn iddo pa mor bell oedd Môn. Mewn braw, dywedodd y crydd gelwydd, a honni eu bod filltiroedd o ben eu taith er eu bod mewn gwirionedd wedi cyrraedd. Ac anobaith yn ei llethu, gollyngodd y gawres ei cherrig – a gadael y siambr gladdu ar ei hôl. Mae modd mynd i weld y siambr drwy drefnu apwyntiad â’r sawl sy’n cadw’r allwedd yn y Wayside Stores yn Llanfaelog.

    More YR HUDOL A’R CYSEGREDIG locations