Pentref glofaol bychan yn y de yw Aber-fan. Ym 1966, ar ôl glaw trwm, cwympodd tomen lo mewn tirlithriad. Llifodd y domen laid dros yr ysgol gynradd leol, gan ladd 144, a’r rhan fwyaf o’r rheini’n blant. Bu cryn helynt ar ôl y drychineb, wrth i rywfaint o'r arian a gyfrannwyd at y gronfa gymorth gael ei ddefnyddio i glirio’r difrod corfforaethol. Wedi’i digio gan hyn, helpodd Byddin Rhyddid Cymru (yr FWA) y bobl leol i wneud cais am iawndal. Ymwelodd Laurie Lee (1914-1997) ag Aberfan yn hydref 1967, ac yn fuan wedyn lluniodd yr ysgrif The Village that Lost its Children. Mae nifer o feirdd blaenllaw Cymru, gan gynnwys T. Llew Jones, Iwan Llwyd ac Ifor ap Glyn, wedi ysgrifennu am y drychineb. I goffáu hanner canmlwyddiant y drychineb, aeth y bardd a’r dramodydd Owen Sheers (g. 1974) ati i ysgrifennu The Green Hollow, ‘cerdd ffilm’ wedi’i seilio ar leisiau ac atgofion y rheini a brofodd yr erchyllter.