Traeth Aberbach, Granston

GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN

... Mythau i’ch synnu a’ch rhyfeddu
aberbach-beach-granston

Ar wahân i fab Arianrhod, Dylan Eil Don, sy’n ymddangos ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, cymeriadau prin yw morforynion yn chwedlau Cymru. Serch hynny, mae hanes lleol am ffermwr a ddaeth ar draws un o ysbrydion y môr yn ei chwrcwd ar greigiau Traeth Aberbach. Llwyddodd i fynd yn ddigon agos ati i'w chyffwrdd, ac aeth â hi i Fferm Treisyllt, a'i charcharu yno. Y noson honno, deffrodd i'w chlywed yn canu'n gwynfanus, yn galw ar ei theulu i'w hachub. Dihangodd ar ffurf cysgod llwyd, gan ymdebygu i'r morloi lleol, a thyngodd na châi’r un plentyn ei eni yn y ffermdy – proffwydoliaeth a wireddwyd tan ganol yr ugeinfed ganrif. Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n gofalu am Draeth Aberbach ac mae modd cyrraedd yno drwy fynd i ben draw'r lôn fach sy'n mynd heibio i Felin Tregwynt – y felin wlân enwog sy'n gwneud carthenni i’w gwerthu ym mhedwar ban byd. Mae'r felin ar agor i ymwelwyr ac mae siop rhoddion yno hefyd.

Llun o Draeth Aberbach - hawlfraint Alan Hughes / Geograph

Traeth Aberbach, Granston

  • Ar wahân i fab Arianrhod, Dylan Eil Don, sy’n ymddangos ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, cymeriadau prin yw morforynion yn chwedlau Cymru. Serch hynny, mae hanes lleol am ffermwr a ddaeth ar draws un o ysbrydion y môr yn ei chwrcwd ar greigiau Traeth Aberbach. Llwyddodd i fynd yn ddigon agos ati i'w chyffwrdd, ac aeth â hi i Fferm Treisyllt, a'i charcharu yno. Y noson honno, deffrodd i'w chlywed yn canu'n gwynfanus, yn galw ar ei theulu i'w hachub. Dihangodd ar ffurf cysgod llwyd, gan ymdebygu i'r morloi lleol, a thyngodd na châi’r un plentyn ei eni yn y ffermdy – proffwydoliaeth a wireddwyd tan ganol yr ugeinfed ganrif. Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n gofalu am Draeth Aberbach ac mae modd cyrraedd yno drwy fynd i ben draw'r lôn fach sy'n mynd heibio i Felin Tregwynt – y felin wlân enwog sy'n gwneud carthenni i’w gwerthu ym mhedwar ban byd. Mae'r felin ar agor i ymwelwyr ac mae siop rhoddion yno hefyd.

    Llun o Draeth Aberbach - hawlfraint Alan Hughes / Geograph

    More GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN locations