33 Y Stryd Fawr, Caerllion

SŴN Y MARW’N YMYRRYD

... Arswyd, ysbrydion ac Annwn
33-high-street-caerleon

Ganwyd Arthur Machen (1863-1947), awdur llyfrau ffantasi ac arswyd, yng Nghaerllion. Tref fechan iawn yw hon, ond un ag iddi gryn arwyddocâd hanesyddol. Mae plac glas ar flaen y tŷ lle daeth Machen i’r byd. Mae’n gyfarwydd yn bennaf am ei gyfrol ffantasi oruwchnaturiol, The Great God Pan, nofel a ddisgrifiwyd gan Stephen King fel un o’r straeon arswyd gorau a ysgrifennwyd yn Saesneg erioed. Aeth Guillermo del Toro ati i’w haddasu yn ffilm, sef ‘Pan’s Labryinth’ a enillodd Oscar. Yn ei waith, darluniodd Machen ran o Went lle mae mwy nag sydd ar y wyneb. Roedd y bryngaerau o Oes yr Haearn, a Thwmbarlwm yn enwedig, ynghyd â Choed Gwent a choedwigoedd Dyffryn Wysg yn llefydd hudolus iddo. Maent wedi ysbrydoli awduron ffantasi dirifedi eraill hefyd, gan gynnwys HP Lovecraft.

33 Y Stryd Fawr, Caerllion

  • Ganwyd Arthur Machen (1863-1947), awdur llyfrau ffantasi ac arswyd, yng Nghaerllion. Tref fechan iawn yw hon, ond un ag iddi gryn arwyddocâd hanesyddol. Mae plac glas ar flaen y tŷ lle daeth Machen i’r byd. Mae’n gyfarwydd yn bennaf am ei gyfrol ffantasi oruwchnaturiol, The Great God Pan, nofel a ddisgrifiwyd gan Stephen King fel un o’r straeon arswyd gorau a ysgrifennwyd yn Saesneg erioed. Aeth Guillermo del Toro ati i’w haddasu yn ffilm, sef ‘Pan’s Labryinth’ a enillodd Oscar. Yn ei waith, darluniodd Machen ran o Went lle mae mwy nag sydd ar y wyneb. Roedd y bryngaerau o Oes yr Haearn, a Thwmbarlwm yn enwedig, ynghyd â Choed Gwent a choedwigoedd Dyffryn Wysg yn llefydd hudolus iddo. Maent wedi ysbrydoli awduron ffantasi dirifedi eraill hefyd, gan gynnwys HP Lovecraft.

    More SŴN Y MARW’N YMYRRYD locations